Dyma gyfle i chi weld Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBCgyda’ch llygaid eich hun yn Playlist Clasurol: YN FYW. Dydd Sadwrn 5 Hydref 2019, Neuadd Brangwyn.


Gan gynnig ffordd arall o fwynhau cerddoriaeth glasurol, gall gynulleidfaoedd sefyll, eistedd, gorwedd ar y llawr neu gerdded o gwmpas gyda diod, wrth fwynhau ystod eang o gerddoriaeth glasurol adnabyddus o’r tair llwyfan.
Dyma gyfle i fod yn agos at y cerddorion ac unawdwyr gydag un o sacsoffonyddion mwyaf blaenllaw’r byd Amy Dickson, y pianydd Huw Watkins a’r organydd Huw Williams. Gyda pherfformiadau promenâd ac uchafbwyntiau gwefreiddiol fydd yn gyngerdd i’w gofio.
Mae hwn yn ddigwyddiad i’r teulu cyfan ac yn berffaith i unrhyw un sydd eisiau rhoi cynnig ar gerddoriaeth glasurol am y tro cyntaf.
Mae gennym bâr o docynnau i’w hennill yn ein cystadleuaeth Tocynnau Aur ddiweddaraf.
