Mae modurwyr a phobl sy’n mynd heibio prif lwybr drwy Abertawe’n cael eu croesawu gan arddangosfa flodau newydd sbon.
Plannwyd yr arddangosfa liwgar hon ar gyffordd Heol Ystumllwynarth a Stryd Paxton fel rhan o ddathliadau 50 mlwyddiant y ddinas.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys dwsinau o blanhigion blodeuol i ffurfio logo’r 50 mlwyddiant sy’n ymddangos ar ddeunydd hyrwyddol ledled y ddinas.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae’r dathliadau yn y ddinas ar eu hanterth i’n helpu i nodi 50 mlwyddiant Abertawe fel dinas.
“Mae ein Tîm Parciau bellach wedi ychwanegu at hyn drwy blannu gwely blodau ar hyd un o’r prif lwybrau drwy’r ddinas.
“Rwy’n siŵr y bydd modurwyr a’r rheiny sy’n cerdded heibio’n gwerthfawrogi’r arddangosfa liwgar ac yn ymuno â ni i ddathlu drwy gydol yr haf.