• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content

50 years logo and date

Swansea - 50 years as a city

Header Right

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube
  • Hafan
  • Arwyr Abertawe
  • 50 o Docynnau Aur
  • Pen-blwyddi’n a phen-blwyddi priodas
  • Digwyddiadau
    • Ychwanegwch eich digwyddiad
    • Mae ein logo 50
    • Melhor Casino Online Portugal
  • Newyddion

Mobile Menu

  • Cymraeg
    • English
  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • Hafan
  • Digwyddiadau
    • Ychwanegwch eich digwyddiad
    • Lleoliadau
    • Mae ein logo 50
  • Arwyr Abertawe
  • 50 o Docynnau Aur
    • Tocynnau Aur - Ospreys yn erbyn Benetton Treviso
    • Tocynnau Aur - Playlist Clasurol: YN FYW
    • Tocynnau Aur – Dinas Abertawe yn erbyn Stoke
    • Cystadlaethau yr Tocyn Aur yn y gorffennol
  • Cyfarchion Fideo
  • Newyddion
  • Cymraeg
    • English

Uncategorized @cy

Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe

Medi 24, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

Roedd rhedwyr yn anelu at aur yn ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni. Roedd y digwyddiad yn fôr o aur a du gan fod y lliwiau ar gyfer ras eleni’n helpu i nodi pen-blwydd aur y ddinas.

Mark Kennedy a Gayle Hughes o Landeilo Ferwallt oedd enillwyr lwcus ein cystadleuaeth Tocynnau Aur Abertawe 50.

Un ogystal ag ennill mynediad am ddim i’r ras, roedd Mark a Gayle hefyd yn gwisgo’n bibiau ras arbennig â’r rhifau 1969 a 2019 i goffáu dyddiadau hanner canmlwyddiant y ddinas.

Ymunon nhw â miloedd o redwyr ar gyfer un o’r digwyddiadau gorau o’i fath yn y DU sy’n denu cefnogwyr a chystadleuwyr o bob cwr o’r DU. Dyma’r ras 10k orau yng Nghymru yn ôl Gwobrau Rhedeg 2019.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Roedd yn fraint i’n dinas groesawu cynifer o redwyr brwd y penwythnos hwn; ffordd arbennig arall i Abertawe ddathlu ei 50 mlynedd gyntaf fel dinas.

“Mae cwrs 10k Bae Abertawe Admiral yn un gwych sy’n addas i redwyr, gyda rhai o’r golygfeydd mwyaf bendigedig yn unrhyw le yn y DU - mae’n ddathliad o’n diwylliant chwaraeon.”

Enillwyd y medalau aur eleni gan Kieran Clements o Shaftesbury Barnet Harriers gogledd Llundain yn y brif ras 10k. 

Natasha Cockram, o dîm rasio Micky Morris oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill y 10k ers dechrau’r 1980au.

Enillydd y ras i bobl mewn cadair olwyn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol oedd Richie Powell, Chwaraeon Anabledd Cymru.

Don't miss these

    Categori: Uncategorized @cy

    Swansea College of Art Exhibition celebrates city anniversary

    Medi 20, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

    Swansea College of Art and Elysium Gallery are hosting a week-long exhibition, previewing Friday, October 4, to celebrate the 50th anniversary of Swansea becoming a city and the role its artists have played during this time.

    50Fifty showcases 50 artists who either studied or taught at Swansea College of Art from the last half century. Curated by two current students of Swansea College of Art, Alicia Hughes and Alice Oliver, 50Fifty will be spread across three venues in Swansea’s City Centre, all of which are hugely important to the Swansea Art scene.

    The chosen artists and artworks explore the impact that Swansea has had on them, whether the artists were born and raised in Swansea, or moved to the city to be a part of Swansea College of Art. 50Fifty helps to celebrate this exciting mixture of artists who have been inspired by our city.

    Alicia Hughes who is studying BA Photojournalism and Alice Oliver who’s studying BA Photography in the Arts were awarded an internship from Swansea College of Art and Elysium Gallery to curate this special exhibition to celebrate Swansea’s 50th Anniversary. Together they have carefully selected fifty artists who have either studied or taught at SCA in the past 50 years. Alumni from 1969 to 2019.

    Alicia said: “I am grateful to have been offered this internship, it has been a great opportunity to broaden my skills. I feel privileged to work with Elysium Gallery & Jonathan Powell to curate an exhibition that celebrates the last 50 years of my University. Being able to bring all of these artists together is really nice, it’s great to see how individual each piece is.”

    Alice said: “Being awarded this internship has been a great honour and I am extremely grateful to be able to celebrate SCA and Swansea as a city whilst working with Elysium Gallery. Curating 50Fifty, alongside Alicia, has taught me invaluable lessons and given me great experience of working beyond my degree.”

    Jonathan Powell, Director elysium gallery said: “I moved to Swansea in 2001 to study at SCA without a clue what I was going to do. Swansea has this wonderful chaotic nature of constantly changing, aspiring to be better with a can-do attitude. It is this that has contributed to what I think is the most vibrant arts community in Wales. I’m proud to be a part of it….and it is still evolving!”

    Caroline Thraves, Swansea College of Art Academic Director, Art and Media said: “Swansea College of Art is proud to be celebrating 50 years of Swansea becoming a City. Our graduates are highly creative individuals who help to make Swansea the cultural and creative hotbed it is where grass roots art is thriving. The 50Fifty exhibition showcases the exceptional talents of 50 artists from 50 years of Swansea College of Art.”

    Locations:

    • College Street Art Gallery, 16 College St, Swansea, SA1 5BH
    • Swansea College of Art, Dynevor Pl, De-La Beche St, Swansea SA1 3EU
    • Elysium Gallery, Gallery 3, 210 High Street, Swansea, SA1 1PE.

    Preview: Friday 4th October

    • 4pm at Swansea College of Art, Dynevor Campus 6-8pm at 16 College St Gallery
    • 6pm – late at elysium gallery, 210 High St

    Exhibition continues until Saturday 12th October (except elysium gallery, continues until 9th Nov)

    Galleries open: Tues – Sat 12 – 5pm (except elysium gallery, open until 7pm)

    Categori: Uncategorized @cy

    Young performers invited to add light and colour to Christmas parade

    Medi 17, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

    Young people from across Swansea have the chance to be at the heart of this year’s Christmas parade and lights switch-on.

    Local drama and dance groups are among those being urged to dress up and entertain thousands of spectators in the parade.

    They will join a wide range of other participants, including local bands, organisations with eye-catching floats, professional entertainers – and Santa.

    Swansea Council’s Special Events team – behind major successes such as the annual Wales Airshow - is organising the free event in mid-November to usher in a great festive season for shoppers, businesses, residents and visitors.

    Robert Francis-Davies, the council’s cabinet member for investment, regeneration and tourism, said: “We’re aiming for this year’s parade to be magical. It will be a special event to commemorate the city’s 50th anniversary celebrations.

    “A huge amount of planning has already been done and we’ll be announcing some more key elements of the parade in due course.

    “However, we want this to be an event that everyone can be part of so local groups are being given the chance to participate and add their own magic to the parade.”

    Swansea’s 2019 Christmas Parade and Lights Switch-on is due to take place from 5-7pm on Sunday, November 17.

    The parade route will be from the Dylan Thomas centre, up Wind Street, Castle Street and High Street, into Alexandra Road, down Orchard Street and along The Kingsway. Council officers are continuing to plan the event – and more detail will be published in the coming weeks.

    They are looking for those groups specialising in drama and dance who will be able to help deliver a strong Christmas theme and a focus on entertaining the crowds.

    There’s a wide range of festive themes that groups could adopt, ranging from films and books to festive characters. All members of the groups must be in costume and will be walking as part of the parade. In keeping with the concept of the parade, all displays will need to have an emphasis on lights and illumination. Details will be discussed and agreed with parade organisers before the event.

    Applications from these groups close at noon on Monday, September 30. Groups that would like to be involved should email the council for further information –[email protected].

    Categori: Uncategorized @cy

    Dathliadau garddwesti’n nodi hanner canmlwyddiant y ddinas

    Medi 3, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

    Gwahoddodd yr Arglwydd Faer dros 150 o bobl o Abertawe i ddathlu eu pen-blwyddi’n 50 oed a’u pen-blwyddi priodas aur mewn garddwesti dros y penwythnos.

    Mae’r digwyddiadau, a gynhelir yn y Plasty hanesyddol yn Ffynone, yn rhan o ddathliadau sy’n coffáu dyddiadau allweddol ym 1969 a oedd wedi troi tref Abertawe’n ddinas.

    Meddai’r Arglwydd Faer, Peter Black, “Ar 3 Gorffennaf 1969, daeth EUB Tywysog Cymru i Abertawe i gyhoeddi ein bod wedi derbyn statws dinas. Ar 10 Rhagfyr 1969 cyhoeddwyd y Siarter Frenhinol a oedd yn cadarnhau statws dinas i Abertawe.

    “Roeddwn i am nodi’r ddau ddigwyddiad drwy wahodd pobl sy’n byw yn Abertawe sy’n dathlu eu pen-blwyddi’n 50 neu eu pen-blwyddi priodas aur rhwng y ddau ddyddiad a chael cyfle i fwynhau lletygarwch yn y Plasty.

    “Roedd oddeutu 70 o bobl yn bresennol ddydd Sadwrn a 60 ddydd Sul.

    “Darparom de prynhawn i bawb gyda brechdanau a theisennau gan orffen y prynhawn gyda sesiwn tynnu lluniau wrth gadair gynfas enfawr Abertawe 50 ac eistedd ar y teras yn yr haul hyfryd.”

    “Fel yr Arglwydd Faer, rwy’n falch iawn o fod yn rhan o nifer mawr o ddigwyddiadau eleni.  Mae’r garddwesti hyn yn un o’r ffyrdd diweddaraf o ddod â’n cymunedau ynghyd i fwynhau’r flwyddyn arbennig hon i Abertawe.”

    Categori: Uncategorized @cy

    Mae ein Maradona papur a phast yn cael ei arddangos eto

    Awst 29, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

    Bydd cyhoedd Abertawe yn cael y cyfle i weld darn o gelf sydd heb gael ei arddangos ers tua 30 o flynyddoedd.

    Llun: Y Maradona papier-mâché gyda staff y Glynn Vivian, Laura Gill, chwith, a Jess John.

    Yng nghanol y 1980au creodd dros 100 o ddisgyblion yn hen Ysgol Uwchradd Penlan gerflun o Diego Maradona sydd bron yn faint go iawn allan o wifren cwt ieir a papier-mâché.

    Cafodd ei gyflwyno yn nillad pêl-droed glas, gwyn a du yr Ariannin a daeth yn ran o gasgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.

    Yn hwyrach yr haf hwnnw, ysbrydolodd y Maradona go iawn ei wlad i ennill Cwpan y Byd Pêl-droed.

    Nawr mae’r cerflun ar fin cael ei arddangos unwaith eto - ac rydym yn chwilio am yr arddegwyr a’i creodd. Mae staff yn oriel Cyngor Abertawe am ailgyflwyno cynifer o’r artistiaid â phosib i’w darn o waith celf, a enwir, Maradona.

    Cynhelir Straeon Abertawe, yn y Glynn Vivian, rhwng 26 Medi a 15 Mawrth. Mynediad am ddim.

    Os oeddech chi’n un o artistiaid y Maradona, e-bostiwch Laura Gill yn yr oriel - [email protected].

    Llun: Y Maradona papier-mâché gyda staff y Glynn Vivian, Laura Gill, chwith, a Jess John.

    Categori: Uncategorized @cy

    Bathu arian arbennig ar gyfer penblwyddi bechgyn a merched

    Awst 23, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

    Mae darn o arian wedi’i fathu’n arbennig ar gyfer chwe bachgen a merch a anwyd yn Abertawe ar ddiwrnod hanner canmlwyddiant Abertawe’n ennill statws fel dinas.

    Drwy weithio gyda’r gwasanaeth cofrestru lleol, mae’r cyngor wedi dod o hyd i hanner dwsin o fabanod a anwyd yn Abertawe ar 3 Gorffennaf 2019 a rhoddwyd darn o arian i’w teuluoedd a fathwyd yn arbennig gan Fattorini, arbenigwyr eitemau coffaol.

    Meddai’r Arglwydd Faer, y Cynghorydd Peter Black CBE, “Roedd 3 Gorffennaf yn ddiwrnod arbennig ar gyfer ein dinas mewn sawl ffordd.

    “Mae gan rieni’r hanner dwsin o blant eu rhesymau eu hunain dros ddathlu 3 Gorffennaf 2019 erbyn hyn.

    “Dyma pam rydym wedi bod yn gweithio gyda Fattorini i greu darn o arian o gasgliad cyfyngedig a fydd yn gofarwydd prin i’r teuluoedd o’r achlysur hynod arbennig hwn.

    “Roedd yn achlysur hyfryd i gwrdd â’r teuluoedd a ddaeth i fod yn rhan o’r digwyddiad dathlu arbennig yn y Plasty.”

    Categori: Uncategorized @cy

    Sgwad Sgwennu’r Ifanc Canolfan Dylan Thomas yn dathlu 50 mlwyddiant Abertawe

    Awst 13, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

    I goffáu 50 mlynedd ers i Abertawe dderbyn statws dinas, trefnodd Canolfan Dylan Thomas ddau weithdy Sgwad Sgwennu’r Ifanc arbennig â thema ar gyfer ein grwpiau oedran uwchradd ym mis Gorffennaf.

    Dan arweiniad yr awdur arobryn, Rebecca F John, dechreuodd y sesiynau drwy edrych ar sut beth oedd bywyd 50 mlynedd yn ôl. Defnyddiwyd amrywiaeth o bropiau - gan gynnwys dillad a wnaed â llaw o 1969, LP a gemau megis dominos - fel propiau ysgrifennu, wrth i ni ddechrau drwy ddychmygu sut brofiad fyddai bod wedi gwylio dyn yn glanio ar y lleuad ym mis Gorffennaf 1969 o’ch ystafell fyw.

    Fel dywedodd Jacob, 13 oed, yn ei ddarn, ‘Rwyf wedi syllu ar y sêr yn yr alaeth ddiderfyn, wedi myfyrio ar bosibilrwydd bywyd y tu hwnt i’r ddaear, gan feddwl tybed a fyddwn yn gallu darganfod hynny. Ac eto, dyma fi, wedi ymdrochi’n llwyr mewn sgrîn, yn mwynhau pob eiliad o bob ffrâm.’

    Yn ail hanner y gweithdy, bu’r awduron ifanc yn dychmygu sut le fydd Abertawe ymhen 50 mlynedd, ac mae eu straeon yn cynnwys rhai elfennau dystopaidd iawn.

    Roedd y gweledigaethau o’r dyfodol yn amrywio o ddinas â phaneli solar drosti i Abertawe ar blaned Mawrth am fod y Jacks bellach yn rheoli’r blaned goch. Roedd hefyd sôn am fechgyn bochdewion mwtant, cymuned a reolir gan wlithod a chymuned arall lle mae soffas symudol yn ein cludo i bob man.

    Roedd gan ‘Abertawe’ arall ddefaid yn crwydro ar hyd y strydoedd am fod pawb yn feganaidd ac nid oes unrhyw ffermydd da byw, ac roedd ‘Abertawe’ arall lle’r oedd cynhesu byd-eang wedi achosi i lefelau’r môr godi i’r graddau bod Abertawe o dan y dŵr a’r preswylwyr yn byw mewn cromennau a ddyluniwyd yn arbennig ar bad hofran enfawr.

    Mewn stori arall, mae’r prif gymeriad yn clywed sŵn ac mae’n dyfalu mai ei gath robotaidd sy’n crafangu am pizza caws lleuad gyda ham Mawrthaidd sy’n weddill (hynny yw, ham a wnaed gan Fawrthiaid, nid ham sy’n cynnwys Mawrthiaid). Yn y cyfamser, gellir gweld llongau môr-ladron yn arnofio drwy bensetiau rhithweledol.

    Roedd Rebecca wedi arwain cwpl o sesiynau hynod ysbrydoledig, ac mae un peth yn bendant ar gyfer y dyfodol; bydd enw da Abertawe ar gyfer cynhyrchu a maethu doniau ysgrifennu creadigol yn parhau. Bydd y genhedlaeth nesaf o ysgrifenwyr creadigol Abertawe wrth law i adrodd a dehongli’r straeon am y 50 mlynedd nesaf, ni waeth beth fydd yn digwydd.

    Mae Canolfan Dylan Thomas hefyd yn cynnal Sgwad ar gyfer plant 8-11 oed yn ogystal â’n grwpiau oedran uwchradd. Mae’r Sgwadiau’n cwrdd ddwywaith y tymor am weithdy am ddim gydag awdur arbenigol. Yr unig gymhwyster y mae ei angen i ymuno yw cariad at ysgrifennu! Ewch i dylanthomas.com am ragor o wybodaeth neu ffoniwch 01792 463980.

    Categori: Uncategorized @cy

    Ymunwch yn nathliadau Abertawe 50 yn eich llyfrgell leol

    Awst 7, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

    Mae holl lyfrgelloedd Cyngor Abertawe’n ymuno yn yr haf llawn dathliadau ar gyfer hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas.

    Bydd pob llyfrgell yn cynnal gweithgareddau dros fis Gorffennaf a mis Awst, a fydd yn cynnwys gemau, crefftau, heriau darllen, arddangosfeydd, digwyddiadau ar thema’r 60au a phartïon i bob oedran.

    Dywedodd Robert Francis Davies, Aelod y Cabinet dros fuddsoddi, adfywio a thwristiaeth, fod miloedd o bobl eisoes wedi cymryd rhan mewn llawer o’r digwyddiadau a drefnwyd i ddathlu flwyddyn euraidd Abertawe, ac mae mwy i ddod o hyd.

    Ychwanegodd, “Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n ddynodedig i’w hardaloedd eu hunain yn y ddinas, ac mae nifer ohonynt yn dilyn thema parti stryd. Mae pob un ohonynt am ddim ac mae croeso i bawb, felly dewch i gymryd rhan.”

    I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau llyfrgelloedd, y bleidlais dros arwr mwyaf Abertawe a llawer mwy, ewch i www.abertawe50.co.uk

    Categori: Uncategorized @cy

    Army Reserve Regiment Awarded Freedom of City

    Gorffennaf 30, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

    The 157 (Welsh) Regiment of the Royal Logistic Corp (RLC) celebrated being granted the freedom of Swansea with a parade and march in the city centre on July 27.

    Lord Mayor of Swansea, Cllr Peter Black CBE said: “It is with great pleasure that we are honoured to be able to grant 157 (Welsh) Regiment of the Royal Logistic Corps (RLC) Honorary Freedom of the City & County of Swansea in our 50th year as a city.

    “The Royal Logistic Corps’ (RLC) 157 (Welsh) Regiment RLC, known colloquially as The Welsh Transport Regiment, has a special friendship with the people of the city and county of Swansea.

    “Swansea is proud of its relationship with the Armed Forces and welcomes every opportunity to show our support.

    “It was my pleasure to be able to give permission to exercise their right of Honorary Freedom to march through our streets with drums beating and bayonets fixed. The people of Swansea gave a very warm welcome as they passed through the city.”

    Following the Ceremonial Meeting of Swansea Council in the Guildhall Chamber, there was an Inspection outside the Guildhall, followed by a march from Guildhall to the National Waterfront Museum via St Helen’s Road, West Way, Oxford Street and Princess Way.

    Categori: Uncategorized @cy

    Pleidleisiwch yn awr dros arwr mwyaf Abertawe

    Gorffennaf 22, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

    Rydym yn chwilio am arwr mwyaf Abertawe wrth i’r ddinas ddathlu ei hanner canmlwyddiant.

    Dyfeisiwyd menter Arwyr Abertawe er mwyn ceisio datrys problem sydd wedi rhannu’r ddinas am genedlaethau – pwy neu beth yw arwr mwyaf ein dinas?

    Lluniwyd rhestr o 50 o bobl, lleoedd a digwyddiadau – mae hyd yn oed ci ynddi – er mwyn i bobl pleidleisio arni cyn cyhoeddi’r enillydd ym mis Hydref.

    Mae pobl amlwg ar y rhestr megis Dylan Thomas, Bonnie Tyler a Catherine Zeta Jones.

    Ond mae hefyd ddigwyddiadau arbennig megis chwe chwech mewn pelawd Gary Sobers yn San Helen, dyrchafiad yr Elyrch i’r Uwch-gynghrair a gorchestion achub bywyd dwy fenyw o Abertawe mwy na 150 o flynyddoedd yn ôl.

    Mae llefydd hefyd megis Traeth Rhosili a Maes San Helen – yr unig leoliad ym Mhrydain lle mae pob tîm rygbi a chriced cenedlaethol yn Hemisffer y De wedi cael eu curo gan y tîm lleol.

    Ac, wrth gwrs, mae Jac Abertawe, y labrador du a oedd wedi ennill enwogrwydd rhyngwladol trwy achub bywydau nifer o bobl a oedd wedi disgyn i ddociau’r ddinas.

    Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, y bydd y broses o ddod o hyd i arwr mwyaf Abertawe yn arwain at ddadlau mawr ar draws y ddinas.

    Meddai, “Pan rydych yn llunio rhestr fer o enwau, lleoedd a digwyddiadau rydych yn dechrau sylweddoli mor anhygoel yw ein dinas.

    “Mae Abertawe wedi bod yn gartref i arloeswyr busnesau a’r celfyddydau creadigol a champau anhygoel ym meysydd cerddoriaeth, chwaraeon a ffotograffiaeth. Mae pobl ein dinas wedi cymryd rhan mewn gweithredoedd dewr anhygoel ac eiliadau o fawredd ac ymroddiad syfrdanol, neu wedi bod yn dyst iddynt.

    “Yn eu ffyrdd gwahanol, mae’r rhestr o 50 eisoes yn arwyr Abertawe. Y gwirionedd yw y gallem fod wedi cynnwys llawer mwy o bobl, digwyddiadau a lleoedd eiconig.

    “Ond rydym yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn pleidleisio dros eu hoff arwr ar y rhestr ac efallai dod â’r ddadl am arwr mwyaf Abertawe i ben am y 50 mlynedd nesaf o leiaf.”

    Ychwanegodd, “Mae Arwyr Abertawe yn rhan o ddathliadau Abertawe 50 – cyfle i breswylwyr gymryd rhan wrth ddathlu ein statws fel dinas, a gyhoeddwyd gan Dywysog Cymru ar 3 Gorffennaf, 1969.

    “Rydym wedi cael partïon stryd, Tocynnau Aur i ddigwyddiadau na all arian eu prynu ac, wrth gwrs, ymweliad gan Dywysog Cymru ar hanner canmlwyddiant ei gyhoeddiad.

    “Ond mae llawer mwy i ddod ac mae’n hawdd i bobl gymryd rhan.”

    50 iconic people, places, events and more. But who or what is Swansea’s greatest icon? You decide.

    Categori: Uncategorized @cy

    • Page 1
    • Page 2
    • Page 3
    • …
    • Page 5
    • Next Page »

    Site Footer

    Preifatrwydd

    Return to top of page

    Copyright © 2019 · Swansea 50