Mae holl lyfrgelloedd Cyngor Abertawe’n ymuno yn yr haf llawn dathliadau ar gyfer hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas.

Bydd pob llyfrgell yn cynnal gweithgareddau dros fis Gorffennaf a mis Awst, a fydd yn cynnwys gemau, crefftau, heriau darllen, arddangosfeydd, digwyddiadau ar thema’r 60au a phartïon i bob oedran.
Dywedodd Robert Francis Davies, Aelod y Cabinet dros fuddsoddi, adfywio a thwristiaeth, fod miloedd o bobl eisoes wedi cymryd rhan mewn llawer o’r digwyddiadau a drefnwyd i ddathlu flwyddyn euraidd Abertawe, ac mae mwy i ddod o hyd.
Ychwanegodd, “Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n ddynodedig i’w hardaloedd eu hunain yn y ddinas, ac mae nifer ohonynt yn dilyn thema parti stryd. Mae pob un ohonynt am ddim ac mae croeso i bawb, felly dewch i gymryd rhan.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau llyfrgelloedd, y bleidlais dros arwr mwyaf Abertawe a llawer mwy, ewch i www.abertawe50.co.uk