Ewch ar daith hudolus i Neverland y Nadolig hwn ac ar antur sy’n llawn môr-ladron drwg, bechgyn coll, crocodeil llwglyd iawn a’r dyn mwyaf cas yn Neverland, Capten Hook!
Bydd Peter Pan yn dod i Theatr y Grand Abertawe gyda Tristan Gemmill o Coronation Street yn chwarae rhan Capten Hook, ffefryn Abertawe Kevin Johns yn chwarae rhan Mrs Smee, seren Britain’s Got Talent, Ricky K yn chwarae rhan Starkey ac Aoife Kenny yn chwarae rhan Tiger Lily.

Gallwch ennill tocynnau i deulu o bedwar yn ein cystadleuaeth Tocyn Aur ddiweddaraf i ddathlu hanner canmlwyddiant y ddinas.
Mae’r ceisiadau wedi cau. Yr enillydd yw Caroline Wade o Treforys.