
I ddathlu hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas, rydym yn dosbarthu 50 pâr o docynnau euraidd i ddigwyddiadau a gynhelir rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr.
Mae tocynnau ar gael ar gyfer 50 o ddigwyddiadau gwahanol gan gynnwys cyngherddau, pêl-droed a gemau rygbi. Bydd ychydig o ddigwyddiadau arbennig na all unrhyw arian eu prynu hefyd.
Mae’n hawdd cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Llenwch eich manylion isod ar gyfer y digwyddiad yr hoffech fynd iddo. Byddwn yn dewis yr enillydd lwcus o het - ac i ffwrdd â chi. Caniateir i bob unigolyn wneud un cais am bob digwyddiad.
Byddwn yn eich hysbysu chi pan fyddwn yn agor cystadleuaeth ar gyfer digwyddiad penodol. Cadwch lygad!