Ewch ar antur anhygoel drwy goedwig law drofannol. Dewch wyneb yn wyneb â’r anifeiliaid a darganfyddwch amrywiaeth o blanhigion prin ac egsotig.
Mae Plantasia, tŷ gwydr i blanhigion a sw canol dinas Abertawe yn ein helpu i ddathlu 50 mlwyddiant Abertawe fel dinas drwy roi tocynnau mynediad i 50 o breswylwyr lwcus yn ein cystadleuaeth Tocynnau Aur ddiweddaraf.

Bydd pob enillydd lwcus yn derbyn un tocyn mynediad am ddim i’w ddefnyddio unrhyw bryd ym mis Rhagfyr 2019 a mis Ionawr 2020.
Nid yw tocynnau’n drosglwyddadwy ac maent ar gyfer mynediad cyffredinol yn unig. Gall taliadau ychwanegol fod yn berthnasol ar gyfer digwyddiadau. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n cystadlu fod dros 18 oed a rhaid bod ganddo gartref parhaol o fewn ffiniau Dinas a Sir Abertawe. Mae amodau a thelerau eraill yn berthnasol. Mae’n cau am 12 ganol dydd ddydd Gwener 29 Tachwedd. Defnyddir eich gwybodaeth gan Gyngor Abertawe a Parkwood Leisure er mwyn prosesu tocynnau buddugol yn unig, ac ni chaiff ei chadw at unrhyw ddiben arall oni bai eich bod wedi nodi fel arall.