• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar

50 years logo and date

Swansea - 50 years as a city

Header Right

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube
  • Hafan
  • Arwyr Abertawe
  • 50 o Docynnau Aur
  • Pen-blwyddi’n a phen-blwyddi priodas
  • Digwyddiadau
    • Ychwanegwch eich digwyddiad
    • Mae ein logo 50
  • Newyddion

Mobile Menu

  • Cymraeg
    • English
  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • Hafan
  • Digwyddiadau
    • Ychwanegwch eich digwyddiad
    • Lleoliadau
    • Mae ein logo 50
  • Arwyr Abertawe
  • 50 o Docynnau Aur
    • Tocynnau Aur - Ospreys yn erbyn Benetton Treviso
    • Tocynnau Aur - Playlist Clasurol: YN FYW
    • Tocynnau Aur – Dinas Abertawe yn erbyn Stoke
    • Cystadlaethau yr Tocyn Aur yn y gorffennol
  • Cyfarchion Fideo
  • Newyddion
  • Cymraeg
    • English

Pleidleisiwch yn awr dros arwr mwyaf Abertawe

Gorffennaf 22, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

Rydym yn chwilio am arwr mwyaf Abertawe wrth i’r ddinas ddathlu ei hanner canmlwyddiant.

Dyfeisiwyd menter Arwyr Abertawe er mwyn ceisio datrys problem sydd wedi rhannu’r ddinas am genedlaethau – pwy neu beth yw arwr mwyaf ein dinas?

Lluniwyd rhestr o 50 o bobl, lleoedd a digwyddiadau – mae hyd yn oed ci ynddi – er mwyn i bobl pleidleisio arni cyn cyhoeddi’r enillydd ym mis Hydref.

Mae pobl amlwg ar y rhestr megis Dylan Thomas, Bonnie Tyler a Catherine Zeta Jones.

Ond mae hefyd ddigwyddiadau arbennig megis chwe chwech mewn pelawd Gary Sobers yn San Helen, dyrchafiad yr Elyrch i’r Uwch-gynghrair a gorchestion achub bywyd dwy fenyw o Abertawe mwy na 150 o flynyddoedd yn ôl.

Mae llefydd hefyd megis Traeth Rhosili a Maes San Helen – yr unig leoliad ym Mhrydain lle mae pob tîm rygbi a chriced cenedlaethol yn Hemisffer y De wedi cael eu curo gan y tîm lleol.

Ac, wrth gwrs, mae Jac Abertawe, y labrador du a oedd wedi ennill enwogrwydd rhyngwladol trwy achub bywydau nifer o bobl a oedd wedi disgyn i ddociau’r ddinas.

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, y bydd y broses o ddod o hyd i arwr mwyaf Abertawe yn arwain at ddadlau mawr ar draws y ddinas.

Meddai, “Pan rydych yn llunio rhestr fer o enwau, lleoedd a digwyddiadau rydych yn dechrau sylweddoli mor anhygoel yw ein dinas.

“Mae Abertawe wedi bod yn gartref i arloeswyr busnesau a’r celfyddydau creadigol a champau anhygoel ym meysydd cerddoriaeth, chwaraeon a ffotograffiaeth. Mae pobl ein dinas wedi cymryd rhan mewn gweithredoedd dewr anhygoel ac eiliadau o fawredd ac ymroddiad syfrdanol, neu wedi bod yn dyst iddynt.

“Yn eu ffyrdd gwahanol, mae’r rhestr o 50 eisoes yn arwyr Abertawe. Y gwirionedd yw y gallem fod wedi cynnwys llawer mwy o bobl, digwyddiadau a lleoedd eiconig.

“Ond rydym yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn pleidleisio dros eu hoff arwr ar y rhestr ac efallai dod â’r ddadl am arwr mwyaf Abertawe i ben am y 50 mlynedd nesaf o leiaf.”

Ychwanegodd, “Mae Arwyr Abertawe yn rhan o ddathliadau Abertawe 50 – cyfle i breswylwyr gymryd rhan wrth ddathlu ein statws fel dinas, a gyhoeddwyd gan Dywysog Cymru ar 3 Gorffennaf, 1969.

“Rydym wedi cael partïon stryd, Tocynnau Aur i ddigwyddiadau na all arian eu prynu ac, wrth gwrs, ymweliad gan Dywysog Cymru ar hanner canmlwyddiant ei gyhoeddiad.

“Ond mae llawer mwy i ddod ac mae’n hawdd i bobl gymryd rhan.”

50 iconic people, places, events and more. But who or what is Swansea’s greatest icon? You decide.

Categori: Uncategorized @cy

Previous Post: « Arddangosfa flodeuol fendigedig yn nodi hanner canmlwyddiant y ddinas
Next Post: Army Reserve Regiment Awarded Freedom of City »

Reader Interactions

Gadael Ymateb Diddymu ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .

Primary Sidebar

Chwilio

Erthyglau ddiweddar

  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Swansea College of Art Exhibition celebrates city anniversary
  • Young performers invited to add light and colour to Christmas parade
  • Dathliadau garddwesti’n nodi hanner canmlwyddiant y ddinas
  • Mae ein Maradona papur a phast yn cael ei arddangos eto

Site Footer

Preifatrwydd

Return to top of page

Copyright © 2019 · Swansea 50