Eleni rydym yn dathlu 50 mlynedd eleni ers i Abertawe dderbyn statws dinas.

Ar 3 Gorffennaf 1969, daeth EMB y Tywysog Siarl i Abertawe ychydig ar ôl cael ei arwisgo’n Dywysog Cymru i gyhoeddi y byddai Abertawe’n dod yn ddinas.
Ar 10 Rhagfyr 1969, arwyddwyd y siarter swyddogol, a daeth Abertawe’n ddinas yn swyddogol.
I nodi’r dyddiadau arbennig hyn, os ydych yn dathlu pen-blwydd yn 50 oed neu ben-blwydd priodas rhwng 3 Gorffennaf a 10 Rhagfyr eleni, hoffem eich gwahodd i ymuno â ni yn ein dathliadau.
Bydd Arglwydd Faer Abertawe, y Cyng. Peter Black CBE, yn cynnal garddwest arbennig yn y Plasty ddydd Sadwrn 31 Awst a dydd Sul 1 Medi a hoffem i chi ymuno â ni.
Mae’r ceisiadau wedi cau. Amodau a thelerau.