Bydd cyhoedd Abertawe yn cael y cyfle i weld darn o gelf sydd heb gael ei arddangos ers tua 30 o flynyddoedd.

Yng nghanol y 1980au creodd dros 100 o ddisgyblion yn hen Ysgol Uwchradd Penlan gerflun o Diego Maradona sydd bron yn faint go iawn allan o wifren cwt ieir a papier-mâché.
Cafodd ei gyflwyno yn nillad pêl-droed glas, gwyn a du yr Ariannin a daeth yn ran o gasgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Yn hwyrach yr haf hwnnw, ysbrydolodd y Maradona go iawn ei wlad i ennill Cwpan y Byd Pêl-droed.
Nawr mae’r cerflun ar fin cael ei arddangos unwaith eto - ac rydym yn chwilio am yr arddegwyr a’i creodd. Mae staff yn oriel Cyngor Abertawe am ailgyflwyno cynifer o’r artistiaid â phosib i’w darn o waith celf, a enwir, Maradona.

Cynhelir Straeon Abertawe, yn y Glynn Vivian, rhwng 26 Medi a 15 Mawrth. Mynediad am ddim.
Os oeddech chi’n un o artistiaid y Maradona, e-bostiwch Laura Gill yn yr oriel - [email protected].
