• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar

50 years logo and date

Swansea - 50 years as a city

Header Right

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube
  • Hafan
  • Arwyr Abertawe
  • 50 o Docynnau Aur
  • Pen-blwyddi’n a phen-blwyddi priodas
  • Digwyddiadau
    • Ychwanegwch eich digwyddiad
    • Mae ein logo 50
    • Melhor Casino Online Portugal
    • Betting Sites
    • Casino Sites UK Not On Gamstop
    • UK Online Casinos Not On Gamstop
    • Non Gamstop Casinos UK
  • Newyddion

Mobile Menu

  • Cymraeg
    • English
  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • Hafan
  • Digwyddiadau
    • Ychwanegwch eich digwyddiad
    • Lleoliadau
    • Mae ein logo 50
  • Arwyr Abertawe
  • 50 o Docynnau Aur
    • Tocynnau Aur – Dinas Abertawe yn erbyn Middlesbrough
    • Cystadlaethau yr Tocyn Aur yn y gorffennol
  • Cyfarchion Fideo
  • Newyddion
  • Cymraeg
    • English

Kev yw arwr Abertawe

Rhagfyr 19, 2019 //  by Chris Peters-Bond//  Leave a Comment

Mae un o arwyr cymunedol eithriadol Abertawe wedi’i anrhydeddu fel rhan o ddathliadau 50 mlwyddiant y ddinas

Daeth Kev Johns MBE, sy’n adnabyddus ar draws y ddinas a thu hwnt am ei waith cymunedol yn ogystal â chyflwyno sioe radio foreol, i frig pleidlais gyhoeddus sy’n dathlu popeth sy’n wych am y ddinas.

Cyflwynwyd ei wobr iddo ar lwyfan Theatr y Grand lle’r oedd yn serennu fel hen wreigan panto am yr 21 blwyddyn yn olynol.

Cafodd Kev, sy’n actor ac yn gaplan, ei eni yn Abertawe, a llwyddodd i guro capten Cymru Alun Wyn Jones, y bardd Dylan Thomas a thirnodau enwog gan gynnwys Bae Rhosili, drwy gael ei enwi’n arwr 50 mlwyddiant y ddinas.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, “Kev Johns yw Mr Abertawe go iawn. Mae’n crynhoi popeth sy’n wych am y ddinas.

“Bob dydd mae e’n helpu cymunedau lleol, p’un ai drwy ei sioe radio neu ei waith fel caplan yn ein cymunedau lleol, trwy gefnogi elusennau lleol neu’n perfformio ar lwyfan fel hen wreigan boblogaidd mewn pantos.

“Mae Kev Johns yn adnabyddus i bawb yn Abertawe oherwydd mae’n gwneud ei orau glas i helpu pobl a’n dinas.

“Mae Abertawe’n enwog ar lwyfan y byd am ei hactorion, ei chantorion, sêr y byd chwaraeon a’i mannau hardd anhygoel megis penrhyn Gŵyr, ond wrth i ni ddathlu 50 mlynedd fel dinas, mae’n wych bod pobl wedi pleidleisio i anrhydeddu arwr cymunedol go iawn.”

Mae Kev yn fwyaf enwog am gyflwyno ei sioe radio foreol ar Sain Abertawe ers blynyddoedd lawer ac mae’n un o gyflwynwyr a siaradwyr mewn ciniawau mwyaf poblogaidd Cymru. Mae’n parhau i ddiddanu cefnogwyr Dinas Abertawe yn ystod hanner amser yn Stadiwm Liberty.

Bydd Kev yn perfformio ochr yn ochr â seren ‘Coronation Street’, Tristan Gemill, sy’n chwarae rôl Capten Hook ym mhantomeim Theatr y Grand eleni, ‘Peter Pan’, a gynhelir tan 12 Ionawr.

Y 10 arwr o Abertawe a ddaeth i’r brig mewn pleidlais gan y cyhoedd oedd:

  1. Kev Johns
  2. Dylan Thomas
  3. Jac Abertawe
  4. Bonnie Tyler
  5. Theatr y Grand
  6. Hufen iâ Joe’s
  7. Derricks Records
  8. Bad Achub y Mwmbwls
  9. Marchnad Abertawe
  10. Enzo Maccarinelli

Great finds

  • New Casinos Not Using Gamstop

Categori: Uncategorized @cy

Previous Post: « Hanesydd i ddathlu ymgyrch hir Abertawe i gael statws dinas

Reader Interactions

Gadael Ymateb Diddymu ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .

Primary Sidebar

Chwilio

Erthyglau ddiweddar

  • Kev yw arwr Abertawe
  • Hanesydd i ddathlu ymgyrch hir Abertawe i gael statws dinas
  • Miloedd yn gwylio Gorymdaith y Nadolig yng nghanol y ddinas
  • Y nifer uchaf erioed o geisiadau ar gyfer seremoni wobrwyo fwyaf Cymru ar gyfer twristiaeth
  • Arddangosfa tân gwyllt eleni am ddim i bawb

Site Footer

Preifatrwydd

Return to top of page

Copyright © 2019 · Swansea 50