Gwahoddodd yr Arglwydd Faer dros 150 o bobl o Abertawe i ddathlu eu pen-blwyddi’n 50 oed a’u pen-blwyddi priodas aur mewn garddwesti dros y penwythnos.

Mae’r digwyddiadau, a gynhelir yn y Plasty hanesyddol yn Ffynone, yn rhan o ddathliadau sy’n coffáu dyddiadau allweddol ym 1969 a oedd wedi troi tref Abertawe’n ddinas.

Meddai’r Arglwydd Faer, Peter Black, “Ar 3 Gorffennaf 1969, daeth EUB Tywysog Cymru i Abertawe i gyhoeddi ein bod wedi derbyn statws dinas. Ar 10 Rhagfyr 1969 cyhoeddwyd y Siarter Frenhinol a oedd yn cadarnhau statws dinas i Abertawe.

“Roeddwn i am nodi’r ddau ddigwyddiad drwy wahodd pobl sy’n byw yn Abertawe sy’n dathlu eu pen-blwyddi’n 50 neu eu pen-blwyddi priodas aur rhwng y ddau ddyddiad a chael cyfle i fwynhau lletygarwch yn y Plasty.

“Roedd oddeutu 70 o bobl yn bresennol ddydd Sadwrn a 60 ddydd Sul.

“Darparom de prynhawn i bawb gyda brechdanau a theisennau gan orffen y prynhawn gyda sesiwn tynnu lluniau wrth gadair gynfas enfawr Abertawe 50 ac eistedd ar y teras yn yr haul hyfryd.”

“Fel yr Arglwydd Faer, rwy’n falch iawn o fod yn rhan o nifer mawr o ddigwyddiadau eleni. Mae’r garddwesti hyn yn un o’r ffyrdd diweddaraf o ddod â’n cymunedau ynghyd i fwynhau’r flwyddyn arbennig hon i Abertawe.”