
Pwy yw eicon mwyaf Abertawe? Neu ai eiliad hanesyddol neu le bythgofiadwy yw eicon mwyaf y ddinas?
Wrth i Abertawe ddathlu’i hanner canmlwyddiant fel dinas, mae gennych chi gyfle i ddewis y peth mwyaf arbennig am Abertawe.
Mae rhestr o 50 o bobl, lleoedd a digwyddiadau – gan gynnwys ci – wedi’i llunio i bobl bleidleisio drostynt cyn i’r enillydd gael ei gyhoeddi ym mis Hydref.